Welcome to RSA Wales | Cymru, where we focus our work and activity on bringing together the wisdom of Fellows and connecting groups of engaged changemakers.
We do this nationally through quarterly Y Caban meetings, and locally through Fellow-led conversation. In all our meetings we share our work, insights and passion for bringing positive changes to Wales | Cymru and the wider world. Through our conversations we discover connections between each other and how we may contribute to the ongoing work of the RSA. We build on the key themes of the Wellbeing for Future Generations Act, and explore ways in which to create sustainable wellbeing.
In 2023, we are focusing our work around Wellbeing for Future Generations goals and young people, through the lens of our “collective futures” and a series of themed events across Wales. We will be doing this in partnership with others who are interested in supporting a mindset shift to a more regenerative, resilient and rebalanced world for people, places and planet.
We also support innovation and impact through our local area grants and Catalyst Award winner’s work in Wales | Cymru.
Here, you can find updates and activity from RSA Fellows across Wales | Cymru. Browse upcoming events and news or read about Fellow-led projects that are looking for your support.
Have your say on future activity by attending an event or by getting in touch with the team. If you have any questions, please get in touch with the RSA Wales | Cymru team.
Croeso i RSA Wales | Cymru, lle rydym yn canolbwyntio ein gwaith a’n gweithgaredd ar ddod â doethineb a chysylltiadau Cymrodyr ynghyd fel grŵp ymroddedig i ysgogi newid.
Gwneir hyn yn genedlaethol drwy gyfarfodydd Y Caban a gynhelir yn chwarterol, ac yn lleol drwy sgyrsiau a arweinir gan Gymrodyr. Ym mhob un o’n cyfarfodydd rydym yn rhannu gwybodaeth am ein gwaith, mewnwelediadau ac angerdd dros ysgogi newidiadau cadarnhaol i Gymru a'r byd ehangach. Trwy ein sgyrsiau rydym yn darganfod y cysylltiadau rhwng ein gilydd a sut y gallwn gyfrannu at waith parhaus yr RSA.
Yn 2023, rydym yn canolbwyntio ein gwaith fel yr RSA yng Nghymru ar nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a phobl ifanc drwy lens ein “dyfodol cyfunol” a chyfres o ddigwyddiadau seiliedig ar thema ledled Cymru.
Gwneir hyn mewn partneriaeth ag eraill sydd â diddordeb mewn cefnogi newid meddylfryd i fyd sy’n adfywiol, gwydn gyda phwyslais ar bobl, lleoedd a'r blaned.
Rydym hefyd yn cefnogi arloesedd ac effaith trwy ein grantiau ardal lleol a gwaith enillydd Gwobr Catalydd yng Nghymru.
Yma, gallwch ddod o hyd i ddiweddariadau a gweithgaredd gan Gymrodyr RSA ledled Cymru. Porwch drwy ddigwyddiadau a newyddion sydd ar y gweill neu darllenwch am brosiectau a arweinir gan Gymrodyr sy'n chwilio am eich cefnogaeth.
Cewch gyfle i ddweud eich dweud ynglŷn â gweithgaredd yn y dyfodol drwy fynychu digwyddiad neu drwy gysylltu â'r tîm. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm RSA Wales | Cymru.